18 Ionawr 2016
Annwyl Jocelyn,
Cyllideb ddrafft 2016-17
Cyfarfu’r Pwyllgor Menter a Busnes ar 14 Ionawr i graffu ar waith Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth o ran cynigion y gyllideb ddrafft.
Mae ein prif bryder yn ymwneud â phroses y gyllideb.
Mae’r newidiadau yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn cyfrifo llinell sylfaen y flwyddyn flaenorol wedi cael effaith arbennig o fawr ar y gyllideb Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Er enghraifft, mae’r gyllideb cyfalaf wedi gostwng 27.5% o gymharu â chyllideb atodol 2015-16, er ei bod wedi cynyddu 30.3% o gymharu â’r llinell sylfaen ddiwygiedig.
Mae’r ddau ffigur yn ddilys – ond ni fu’r newid arddull yn ddefnyddiol i bwrpas gwaith craffu effeithiol.
Er i’r Gweinidog ddarparu tabl cysoni, ac addewid i ddarparu gwybodaeth ychwanegol amrywiol mewn ymateb i geisiadau penodol am enghreifftiau, roedd y cyflwyniad cyffredinol yn ei gwneud yn anodd iawn i sicrhau llawer o hyder yn fforddiadwyedd a gwerth am arian cyllideb yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mae ansicrwydd ynghylch yr amserlen ar gyfer Metro, y Fargen Ddinesig a bwriadau’r Gweinidog o ran Ardrethi Busnes (y bydd hi’n gwneud cyhoeddiad yn eu cylch yn ddiweddarach eleni) hefyd yn cymylu’r darlun.
Nododd y Pwyllgor ddau fater yn ymwneud â chyfrifoldeb ac atebolrwydd am waith craffu pellach. Dywedwyd wrthym mai’r Gweinidog Cyllid oedd yn gyfrifol am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Fargen Ddinesig Caerdydd, yn hytrach na Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Fodd bynnag, ymddengys yn debygol y daw unrhyw gyfraniad gan Lywodraeth Cymru drwy gyllid – e.e. prosiect METRO – a ddarperir gan bortffolio yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mae hwn yn bwnc y byddwn yn dychwelyd ato ar ôl cytuno ar fanylion y Fargen Ddinesig ac iddynt gael eu llofnodi.
Yn yr un modd, pan ofynnwyd am y prosiectau sydd i’w cynnwys yng Ngham 2 y Metro dywedodd y Gweinidog mai mater ar gyfer y Prif Weinidog fyddai hwn. Mae’r rheswm dros hyn yn aneglur, gan mai rhaglen drafnidiaeth yw Metro.
Yn gywir,
William Graham AC
Cadeirydd